Amdanom ni
View this page in English
Mae Fforwm Gofal Cymru'n sefydliad di-elw gyda mwy na 450 aelod ar draws Cymru. Fe'i sefydlwyd yn 1993 fel llais dros ddarparwyr gofal iechyd a chymdeithasol yn y drafodaeth am sut i gynnig y deilliannau gorau i'r rheiny sydd angen gofal cymdeithasol.
- Gweithiwn yn agos gyda Llywodraeth Cymru, comisiynwyr, a rheolwyr i ffurfio polisïau sy'n canolbwyntio ar sicrhau bod pobl yn cael eu gofalu i'r safon uchaf.
- Gweithiwn hefyd i hyrwyddo proffil y gweithlu gofal cymdeithasol. Bob blwyddyn, trefnwn ddathliad o'r gwaith caled a dibynadwyedd a'u gwelir yn y gweithlu gofal cymdeithasol, trwy gynnal y Gwobrau Gofal Cymru.
- Hefyd, trefnwn hyfforddiant a chyfleoedd rhwydweithio i sicrhau ymarfer gorau yn ogystal â rhannu gwybodaeth gyda'n haelodau.
- Caiff ein haelodau'r budd o gyngor proffesiynol, taflenni newyddion, a gwirio cofnodion troseddu am bris isaf. Cânt hefyd eu cofrestru ar ein gwasanaeth cymharu gofalwyr, ar wefan Fforwm Gofal Cymru.
Yn gweithio i godi safonau
Mae Fforwm Gofal Cymru'n falch i fod yn llofnodydd i'r Memorandwm Dealltwriaeth, Sicrhau Partneriaethau Cryf yng Ngofalaeth –– sef cytundeb wedi'i arwyddo hefyd gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru, RNHA, a UKHCA.
Ers blynyddoedd ymgyrchwn o blaid fframwaith cenedlaethol sy'n torri trwy fiwrocratiaeth, ychwanegu at atebolrwydd, a chynnwys byrddau iechyd lleol.
Ar ôl 20 mlynedd parhawn i ymdrechu o blaid gwelliannau i drefn gofal cymdeithasol a sut y'i cynhelir yng Nghymru. Mae'n daith hir erbyn hyn, ond mae cryn dipyn mwy o heriau o'n blaen.
- Os hoffwch wybod mwy am Fforwm Gofal Cymru, cysylltwch â ni trwy ebost: enquiries@careforumwales.co.uk
- Os hoffwch ymuno â Fforwm Gofal Cymru, gellwch gofrestru ar-lein.
« back to Home Page
Care Compare Wales
Search our database of more than 450 quality care providers by county,
region,
care category
or keyword.